Y wal ddringo dan do fwyaf yng Nghymru.
Gallwch ddringo yng nghanolfan ddringo dan do fwyaf De Cymru, canŵio ar lynnoedd Taf Bargoed, archwilio’r system ogofau sydd wedi eu creu gan ddyn neu ddod o hyd i’ch ffordd o amgylch y Cwrs Antur Awyr - mae gan Ganolfan Summit Centre rywbeth ar gyfer pob un aelod o’r teulu!
Ar gyfer pwy?
Pob oed a gallu. Mae Canolfan Summit Centre yn croesawu teuluoedd, grwpiau, unigolion a’r sawl sydd wrth eu bodd yn yr awyr agored. Os ydych yn rhoi cynnig ar weithgaredd am y tro cyntaf maent yn darparu hyfforddiant ac offer. Os ydych yn brofiadol ac am wella ymhellach, mae hyfforddiant wrth law gan arbenigwyr. Ar gyfer grwpiau sydd am benwythnos i ffwrdd yn llawn gweithgaredd, maent y trefnu amrywiaeth o weithgareddau all gynnwys adeiladu rafft, teithiau cerdded gyda’r nos, cerdded mewn ceunentydd a llawer mwy!
Lle?
Ger Trelewis, 10 munud o’r A470 ar gylchfan Abercynnon roundabout. CF46 6RD
Uchafbwyntiau:
- Dros 20 o weithgareddau antur hyfforddedig.
- Dros 120 o lwybrau dringo dan do, waliau 18 metr o uchder a bargod 8 metr trawiadol.
- Amgylchedd diogel ar gyfer dechreuwyr i roi cynnig ar weithgareddau â hyfforddwyr profiadol.
- Darperir popeth, o offer ceufadu i saethyddiaeth a choed ar gyfer tannau crefftau’r gwylltir.
- Cyfleusterau newid/cawodydd os ewch yn frwnt neu’n wlyb wrth gael hwyl!
Cysgu 15 i 104 mewn 3 uned hunangynhwysol:
Mae Trelewis Drift yn cysgu 44
Mae Deep Navigation yn cysgu 40
Mae Taf Merthyr yn cysgu 20
Mae pris gwyliau penwythnos yn dechrau at £ 66yp. Mae prisiau'n amrywio yn ôl amser y flwyddyn ac os ydych chi eisiau cynnwys gweithgareddau. Ffoniwch ni am ragor o fanylion