Dine in The Mine: tŷ bwyta, glofaol newydd yr hen Town of Steel
Gallwch ganfod The Mine CF47 a Castelany’s ar lawr uchaf hen adeilad yng Ngwrt Bowen. Ar y llawr isaf, dewch o hyd i far tapas Eidalaidd, bar gwin a lleoliad cerdd.
O brydiau pasta blasus i fyrgers Americanaidd, mae The Mine CF47 a Castelany’s yn cynnig bwyd da, lleol ar gyfer teuluoedd - perffaith ar gyfer glowr wedi diwrnod caled yn y lofa (mae’r bwyd yn cael ei weini ar rofiau!)
Mae tŷ bwyta Eidalaidd Castelany’s ar y llawr isaf, yn cynnig prydiau tapas sydd wedi’u cynllunio gan y Prif Gogydd a’r cyd berchennog Marius Castelany sydd wedi ennill nifer o wobrau — cafodd ysgoloriaeth gan Antonio Carluccio, ‘Tad bwyd Eidalaidd.’