Yn edrych draw tuag at Drefechan mae Castell Morlais.
Adeiladwyd y castell yn wreiddiol tua 1270 gan Iarll Caerloyw ac Arglwydd Morgannwg Gilbert de Clare ar dir yr hawliwyd gan Humphrey de Bohun – diweddwyd y gwrthdaro yn dilyn Brwydr Maes y Faenor yn 1291.
Daliwyd y castell am gyfnod, dair blynedd yn ddiweddarach gan wrthryfelwyr o Gymru yn ystod Gwrthryfel y Cymry yn y drydedd ganrif ar ddeg. Yn dilyn buddugoliaeth Edward y Iaf yn erbyn y gwrthryfelwyr, distrywiodd rannau o’r castell i’w rwystro rhag cael ei ddefnyddio fel cadarnle byth eto.
Mae gweddillion y castell yn brin ond mae’r gell gladdu sydd wedi goroesi yn awgrym o fawredd y safle.