Hen gwrs dŵr yw Dyfrffos Cyfarthfa, tua 1000m o hyd o’i ffynhonnell ar lannau Taf Fechan i Lyn Cyfarthfa ac fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol i gludo dŵr i’r gwaith haearn hefyd.
Adeiladwyd yr hen Dramffordd, sy’n rhedeg islaw’r Dyfrffos, ar silff a naddwyd ar wyneb y graig i gludo calchfaen gan dram a cheffyl o Chwarel Gurnos i Waith Haearn Cyfarthfa. Mae rhodfa o goed yno bellach y gallwch ei dilyn ac oddi yno weld waliau’r Dyfrffos uwch eich pen.
Mae Dyfrffos Cyfarthfa a’r Dramffordd yn un o gyfres o lwybrau sydd yn rhedeg trwy’r fwrdeistref sirol ac sydd yn crisialu hanes yr ardal ac sydd y cynnig milltiroedd ar filltiroedd o harddwch naturiol. Os ydych am stopio yn un o’r atyniadau antur gwych, dysgu am ein hanes, siopa, bwyta, cysgu neu fwynhau’r golygfeydd ysblennydd, mae rhywbeth ym Merthyr i bawb.