Darganfod Llwybr troed Cronfa Llwyn Onn
Llwybr troed Cronfa Llwyn Onn
Mae’r llwybr cylchog 3.4k ar lan y gronfa yn gymysgedd o arogl y goedwig fythwyrdd a seiniau tawel y dŵr dwfn glas.
Adeiladwyd cronfa Llwyn Onn yn 1956, yn 150 acer hi yw’r mwyaf o’r tair cronfa yng Nghwm y Taf Fawr.
Mae’r dŵr helaeth yn gynefin gwych ar gyfer bywyd gwyllt fel dyfrgwn, gwyachod yddfgoch, hwyaid llygad aur, hwyaid danheddog a chwtieir.
Mae’n le poblogaidd i bysgotwyr. Gellir prynu trwydded yng Nghanolfan Ymwelwyr Garwnant gerllaw yn ogystal â phaned a theisen.

Brochures
Gobeithio y gwnewch fwynhau Taith Taf, pa fodd bynnag y dewiswch deithio ond cofiwch eich bod yn teithio’n gyfrifol. Edrychwch ar ôl eich hun, eraill a’ch amgylchedd. Lawr-lwythwch eich taflennu gwybodaeth, isod.
Llesiant Meddwl Mwynhau Natur yn Gyfrifol Heicio’n Ddiogel

Map - choose and download your map today
Ti ddarganfod mwy am lwybrau lawrlwythwch y map isod -

Os ydych yn teithio trwy Ferthyr Tudful ar hyd Taith Taf (o’r de i’r gogledd,) lawr-lwythwch ein map diweddaraf er mwyn eich cynorthwyo

Links
Yn ogystal â Thrysori’n Llwybrau, mae cyfrifoldeb gennym i edrych ar eu hôl, eu cynnal ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Parchwch gefn gwlad a’ch gilydd.
Dilynwch y Rheolau Cefn Gwlad. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chanllawiau drwy ddilyn y ddolen isod.

Rhwydwaith Llwybrau beicio Sustrans – Llwybr 8 – Merthyr Tudful i Aberhonddu. Cliciwch isod er mwyn cael gwybod rhagor am y rhwydweithiau seiclo trwy Gymru a’r DU.

Ramblers Cymru- Dewch i wybod rhagor am Ramblers Cymru drwy glicio ar y ddolen, isod.

Mae Taith Taf yn un o gyfresi o lwybrau sydd yn rhedeg trwy’r fwrdeistref sirol ac sydd yn crisialu hanes yr ardal ac sydd y cynnig milltiroedd ar filltiroedd o harddwch naturiol. Os ydych am stopio yn un o’r atyniadau antur gwych, dysgu am ein hanes, siopa, bwyta, cysgu neu fwynhau’r golygfeydd ysblennydd, mae rhywbeth ym Merthyr i bawb.