Llwybrau Canol Tref Merthyr Tudful

Darganfod Llwybrau Canol Tref Merthyr Tudful

Dilynwch yn ôl traed arwyr y dref

Mae cyfres o deithau cerdded byrion wedi cael eu datblygu trwy CaruMerthyr. Maent yn cyfuno ymarfer corff tyner â dysgu a theithiau thematig o amgylch y dref. Byddant yn cymryd, dim hirach na 1.15 awr i’w cwblhau. Maent yn cynnwys pob dim o rôl y merched yn hanes Merthyr Tudful i gyflawniadau chwaraeon, pensaernïaeth ac oes y stêm.

LAWR-LWYTHWCH mapiau’r llwybrau yma neu ewch i am ragor o wybodaeth.

 

Brochures

 

 

Ar Drywydd Menywod Merthyr

Dilynwch ein trywydd lled wahanol sy’n olrhain hanes lleol menywod Merthyr Tudful, a gafodd, tan yn ddiweddar eu hanwybyddu yn hanes cyfoethog y dref. Mae’n dechrau ac yn gorffen, ar ôl taith gerdded rwydd o tua hanner milltir trwy ganol y dref, â’r Santes Tudful, sef y nawddsant a sefydlodd ac a roddodd ei henw i Ferthyr Tudful. Awgryma’r gair ‘merthyr’ mai yma y cafodd ei merthyru cyn dyfod yn santes. Ar ôl cyrraedd pob man ar y trywydd gallwch ganfod rhagor am y lleoliad a’i berthnasedd i fenywod Merthyr Tudful dros y dudalen.

Taith Olygfeydd

Mae Merthyr Tudful yn unigryw ac mae amrywiaeth eang o elfennau artistig yn cuddio mewn mannau di-nod. Ymunwch â Richard Jones, ffotograffydd a anwyd ym Merthyr Tudful ar daith fer o amgylch y dref  er mwyn gweld yr hyn sy’n dal ei lygad ac yntau’n ffotograffydd proffesiynol. Tynnwch luniau ar hyd y daith gan ddefnyddio dim arall ond eich ffôn symudol. Fedrwch chi weld yr hyn y mae ffotograffydd yn ei weld?  

Mwynhewch yr her o ddefnyddio camera eich ffôn er mwyn cofnodi rhai o ddelweddau eiconig ac elfennau gweledol anghyffredin Merthyr.

Dilyn Ôl Traed Dic Penderyn

Dilynwch yn ôl traed Dic Penderyn, ac ymweld â’r mannau ble fyddai arweinwyr Terfysg Merthyr 1831 wedi cwrdd i gynllwynio a lleoliad sawl anghydfod gwaedlyd yn ystod y terfysg. A oedd Dic Penderyn yn arwr, yn ddihiryn neu’n ddioddefwr o’r terfysg? Neu yn wir a oedd e’n ferthyr dros Gymry’r dosbarth gweithiol?  

Ar y Cledrau

Darganfyddwch bopeth am Ferthyr Tudful a datblygiad y rheilffyrdd, gan ddechrau gyda rôl y dref yn y daith gyntaf erioed a wnaed ar reilffordd gan locomotif stêm. Dechreuodd y cyfan gyda bet rhwng dau feistr haearn pwerus ym Merthyr, gan arwain at locomotif stêm Richard Trevithick ac oes aur stêm yn y pen draw. 

Syllu tua'r nen ym Merthyr

Dyma lwybr lleol sydd ychydig bach yn wahanol. Caiff y cerddwr ei annog i edrych i FYNY i weld beth sydd uwch ben lefel y llygad a hyd yn oed ar ben lefel y to tua’r nen!

Ni fyddwch yn cael eich siomi; yn wir, mae’n bur debyg y bydd yn eich diddori a’ch hysbysu am olygfeydd newydd o’r dref ac ongl wahanol o’i hanes cyfoethog. Wedi’r cyfan, roedd y dref yn gallu fforddio’r bensaernïaeth ddinesig orau o ran deunyddiau a dylunwyr.

Chwaraeon ym Merthyr

Mae cyfranogi mewn pob math o wahanol chwaraeon wedi bod yn ddull cwbl angenrheidiol o hamddena ac yn allweddol i ddatblygiad y dref hon fel endid dinesig. Bu Merthyr Tudful, yn lle cystadleuol erioed; pennwyd hynny gan bris haearn barrau ar y marchnadoedd byd-eang flynyddoedd maith yn ôl. Ffurfiwyd timau chwaraeon amrywiol hyd yn oed ymysg y strydoedd mwyaf cystadleuol, ym mhorthdai’r gweithfeydd glo a’r capeli. Canlyniad hyn i gyd a gofnodwyd mewn nifer o gyhoeddiadau yw “Sporting Merthyr Tydfil.”

Mae’r daith yn dechrau yng Nghlwb Pêl-droed Merthyr ac yn gorffen yng nghalon canol y dref ond gellir ymweld hefyd â Chlwb Rygbi Merthyr Tudful a Chanolfan Hamdden Merthyr Tudful ble mae modd gweld ‘neuadd anfarwolion’ gynhwysfawr y byd bocsio.  

Cymraeg oedd prif iaith Merthyr Tudful drwy gydol y rhan fwyaf o’i hanes cyn ac yn ystod ei diwydiannu. Erbyn 1840, hon oedd tref fwyaf Cymru o ran cynhyrchu haearn.

Ganwyd y mwyafrif o’i phoblogaeth yng Nghymru ac felly’r Gymraeg oedd yr iaith. Cafwyd nifer o wahanol acenion Cymraeg a oedd i’w clywed mewn gwahanol rannau o’r dref. Roedd acen Helogerrig yn un wahanol a nodedig o’i gymharu ag acen Dowlais ac eto’n wahanol i drefedigaethau i lawr y cwm o gwmpas y pyllau glo, gyda’u gweithlu’n rhannol o ganolbarth Cymru. Yn ardal Georgetown, sef isranbarth o dan nawdd Gwaith Cyfarthfa, nododd cyfrifiad 1851 fod traean o’r boblogaeth wedi mudo i’r ardal o Sir Gaerfyrddin.

Dilynwch ein llwybr byr o gwmpas canol tref Merthyr Tudful a dod o hyd i enghreifftiau o’r Gymraeg sydd i’w gweld yng nghelfyddyd y dref a’i phensaernïaeth a mannau agored.

Links

Cliciwch yma am fapiau rhyngweithiol teithiau cerdded welovemerthyr

Mae Teithiau Cerdded Canol y Dref yn rhan o gyfres o lwybrau sydd yn rhedeg trwy’r fwrdeistref sirol ac sydd yn crisialu hanes yr ardal ac sydd y cynnig milltiroedd ar filltiroedd o harddwch naturiol. Os ydych am stopio yn un o’r atyniadau antur gwych, dysgu am ein hanes, siopa, bwyta, cysgu neu fwynhau’r golygfeydd ysblennydd, mae rhywbeth ym Merthyr i bawb.

 

Beth sy'n digwydd ym Merthyr Tudful

Y newyddion diweddaraf

Canllaw Swyddogol i Ymwelwyr 2022

Mae ein canllaw ymwelwyr 2022 newydd yma!

Mae gennym bopeth o anturiaethau o'r radd flaenaf i dirweddau sy'n cymryd anadl yn aros i gael eu darganfod.

Codwch y peth yn lleol neu lawrlwytho o'r wefan yma.

Map Rhyngweithiol sy’n nodi holl atyniadau i ymwelwyr ym Merthyr

Bydd ymwelwyr â Merthyr Tudful sydd am ddod i adnabod y fwrdeistref sirol yn well yn gallu nodi’n union ble mae angen iddyn nhw fynd drwy ddefnyddio gwefan â map rhyngweithiol.

Mae Darganfyddwr Lleoliad Croeso Merthyr a luniwyd gan Dîm Rheoli Cyrchfa…

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2022