Rhan o lwybr prydferth 92 milltir di-draffig yn bennaf o Bromsgrove i Gastell Nedd.
Mae Blaenau’r Cymoedd - NCN Llwybr 46 drwy Ferthyr Tudful yn dilyn Taith Taf dros Draphontydd Cefn Coed a Phontsarn a thrwy goetiroedd tua’r gogledd, cyn troi i’r dwyrain heibio Rheilffordd Mynydd Brycheiniog (ar y briffordd) a thua’r Pant. Yna, mae’r llwybr di-draffig yn mynd yn serth i fyny heibio’r llynnoedd ar frig Dowlais cyn parhau ar hyd ymyl y cwm cyn disgyn i geunant Clydach ac ymlaen am Lanffwyst (Y Fenni).
Cwblhewch Ddarn Blaenau’r Cymoedd – Brynmawr i Gastell Nedd
Mae’r llwybr yn 25 milltir o hyd ac yn dechrau ym Mrynmawr. Mae’n cwmpasu pump o awdurdodau lleol Cymru gan gynnwys Merthyr Tudful cyn ymuno â llwybrau eraill a throelli ar hyd ffyrdd mawr a bach yn ogystal â llwybrau di-draffig. Gogoniant y llwybr sylweddol hwn yw y gall seiclwyr profiadol deithio ar ei hyd neu gall teuluoedd ddewis rhannau tawel ohono am ddiwrnod perffaith yn yr awyr agored.
Un o blith cyfres o lwybrau ledled y fwrdeistref sirol yw Llwybr Blaenau’r Cymoedd, sy’n cynnwys hanes yr ardal o fewn milltiroedd lawer o brydferthwch natur. Felly gallwch gymryd eich amser ac oedi ger un o’n hatyniadau antur anhygoel a dysgu am ein hanes neu siopa, bwyta, cysgu a threulio ennyd i fwynhau ein golygfeydd godidog. Mae’r cyfan ym Merthyr.