Neidio i'r prif gynnwy

Hanes Gwyllt

Mae’n hanes yn fawr a beiddgar!

Mae’n hanes yn fawr a beiddgar! Ewch i'r safleoedd treftadaeth hyn i ddarganfod cyflawniadau Merthyr a’i phobl arloesol.

Castell a Pharc Cyfarthfa

Castell a Pharc Cyfarthfa

Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa

Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa

Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa

Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa

Cyfarthfa Musuem

Cyfarthfa Musuem

Trên Bach Cyfarthfa

Trên Bach Cyfarthfa

Llynnoedd Cyfarthfa

Llynnoedd Cyfarthfa

Parc Sblasio a Chwarae

Parc Sblasio a Chwarae

Tŷ Meistr haearn mwyaf mawreddog Cymru

Mae’n rhaid i chi ymweld â Chastell, Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa.

 

Wedi'i adeiladu gan deulu Crawshay a oedd yn rhedeg gwaith haearn Cyfarthfa yn y 18fed a'r 19eg ganrif, mae'n lle aruthrol i ddarganfod hanes Merthyr.

 

Mae'r ystafelloedd sydd wedi'u hadfer yn ysblennydd yn gartref i gasgliad gwych o weithiau celf, ynghyd ag arteffactau o gyfnod y Rhufeiniaid i'r Chwyldro Diwydiannol.

 

Wedi'i leoli mewn 160 erw o barcdir sydd wedi'i dirlunio â llyn, llwybrau cerdded, caffi ac ardal chwarae i blant, mae'n hawdd treulio'r diwrnod cyfan yma.

Model o Injan Trevithick

Model o Injan Trevithick

Llwyfan Arsylwi Trevithick

Llwyfan Arsylwi Trevithick

Twnnel Trevithick

Twnnel Trevithick

Panel Gwybodaeth Llwybr Trevithick

Panel Gwybodaeth Llwybr Trevithick

Llwybr Trevithick - Puddlers Bridge

Llwybr Trevithick - Puddlers Bridge

Y cyntaf yn y byd!

Digwyddodd y daith locomotif stêm gyntaf ar gledrau ym Merthyr. Cewch ail-olrhain y llwybr a gymerwyd gan locomotif stêm Richard Trevithick, Penydarren, yn 1804 pan oedd yn 'cario deg tunnell o haearn mewn pum wagen a saith deg o ddynion yn marchogaeth arnynt' ar gyflymder o 'bron i bum milltir yr awr'!

 

Cerddwch neu feiciwch ar hyd y Llwybr Trevithick llinellol, 9 milltir o hyd sydd â gwaith celf a phaneli gwybodaeth ar ei hyd.

Y ddraig goch a ddyry gychwyn (the red dragon advances)

Y ddraig goch a ddyry gychwyn (the red dragon advances)

 Redhouse, Sgwâr Penderyn

Redhouse, Sgwâr Penderyn

Y tu fewn i Redhouse

Y tu fewn i Redhouse

Calon Haearn Merthyr, Sgwâr Penderyn

Calon Haearn Merthyr, Sgwâr Penderyn

Y ddraig goch a ddyry gychwyn

Edmygwch arwyneb allanol, eiconig adeilad rhestredig Gradd II, Redhouse (sydd ar gau ar hyn o bryd). O'r grisiau hyn y cafodd yr AS Llafur cyntaf, Keir Hardie, ei anfon i'r Senedd.

 

Roedd Gwrthryfel Merthyr ym 1831 yn wrthryfel dosbarth gweithiol sylweddol ym Merthyr Tudful, a ysgogwyd gan gyflogau isel, amodau gwael, a diweithdra yn y diwydiannau haearn a mwyngloddio. Roedd Sgwâr Penderyn yn lleoliad allweddol lle datblygodd digwyddiadau mawr y gwrthryfel, gan gynnwys gwrthdaro rhwng protestwyr a milwyr, cipio’r dref, a chwifio’r faner goch am y tro cyntaf yn hanes Prydain.

 

Sylwch ar y dyfyniad gan y bardd o'r 15fed ganrif Deio ap Ieuan Ddu yn y mosaig llawr wrth y fynedfa: 'Y ddraig goch a ddyry gychwyn.' 

 

Theatr Soar, Y Stryd Fawr, Merthyr Tudful

Theatr Soar, Y Stryd Fawr, Merthyr Tudful

Awditoriwm Theatr Soar

Awditoriwm Theatr Soar

Digwyddiadau Theatr Soar

Digwyddiadau Theatr Soar

Siop Theatr Soar

Siop Theatr Soar

Caffi Cwtsh yn Theatr Soar

Caffi Cwtsh yn Theatr Soar

Clywed y Gymraeg

Canolfan a Theatr Soar yw calon y gymuned Gymraeg ym Merthyr a'r lle perffaith i ddarganfod mwy am yr iaith.  

 

Mae Canolfan Soar, a reolir gan Fenter Iaith Merthyr Tudful, yn yrrwr allweddol yn natblygiad yr iaith Gymraeg yn yr ardal.

 

Mwynhewch berfformiadau a gweithgareddau dwyieithog eraill neu ewch i'r caffi a'r siop lyfrau.

Cronfa Pontsticill

Cronfa Pontsticill

Hen Drên Stêm Baldwin

Hen Drên Stêm Baldwin

Profiad Platiau Traed

Profiad Platiau Traed

Gweithdy

Gweithdy

Y Trên Stêm ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog  

Ewch yn ôl mewn amser wrth deithio ar drên stêm ar Reilffordd Mynydd Aberhonddu ac ewch i'r gweithdai lle maent yn adfer yr injans a’r cerbydau.  

 

Mwynhewch olygfeydd anhygoel o'r mynyddoedd wrth i chi deithio o amgylch cronfa ddŵr Taf Fechan, cyn mwynhau lluniaeth yn yr ystafell de.

Lleoedd o ddiddordeb

Cronfa Pontsticill