Gwnewch atgofion hapus ym Merthyr ar gyfer pob math o deuluoedd ar bob math o ddiwrnodau.
Gorsaf Pontsticill
Taith Arbennig Siôn Corn
Llwybr Teulu Parc Taf Bargoed
Helfa Drychfilod Parc Taf Bargoed
Panel Gwybodaeth Llwybr i'r Teulu
Parc Taf Bargoed
Dyddiau darganfod
Ewch ar daith yn ôl mewn amser gyda thaith ar Reilffordd Mynydd Aberhonddu. Mae eu digwyddiadau tymhorol, gan gynnwys Teithiau Siôn Corn yn arbennig o boblogaidd.
Ewch i hela trychfilod neu sylwi ar fywyd gwyllt ar un o'n Llwybrau Cyfeillgar i Deuluoedd. Mae'r llwybr 1 milltir o hyd o amgylch y llyn ym Mharc Taf Bargod yn berffaith i deuluoedd ifanc sydd â beiciau a phramiau ac mae lluniaeth ar gael yn y ganolfan ymwelwyr.
Canolfan Rock UK Summit Centre - Dringo Creigiau Dan Do
Mae plant wrth eu bodd yn bod yn greadigol yn ystod gwyliau'r ysgol - popeth o grefftau i weithgareddau natur. Edrychwch beth sy'n digwydd yng Nghastell Cyfarthfa, Theatr Soar a Pharc Taf Bargoed.
Parc Cyfarthfa – Caffi’r Ganolfan, Parc Sblash a Chwarae â byrddau picnic
Dyddiau heulog
Treuliwch y diwrnod yng Nghastell Cyfarthfa gyda phicnic, amser cinio i'r teulu.
Gall y rhai egnïol fwynhau ar y glaswellt, yn yr ardal chwarae a'r parc sblasio (Ebrill - Awst), tra bod eraill yn archwilio'r amgueddfa neu’n mynd am drip ar y rheilffordd fach (ar agor ar ddyddiadau penodol).