Mae Merthyr wedi'i amgylchynu gan olygfeydd anhygoel gan gynnwys Pen y Fan, y copa uchaf yn ne Prydain. Cewch gyfleu'r golygfeydd ysblennydd hyn mewn gweithdy ffotograffiaeth tirlun gyda Nigel Forster.
Treuliwch ddiwrnod yn yr awyr agored gyda Merthyr Ramblers a fydd yn rhannu eu gwybodaeth leol am deithiau cerdded wythnosol, neu fwynhau'r panoramas wrth chwarae 18 twll yng Nghlwb Golff Merthyr Tudul neu Glwb Golff Castell Morlais. Golygfa anhygoel arall yw Brathiad y Cawr- bwlch dramatig yn yr awyrlin ar safle hen chwarel, i'w weld o'r A470. Gallwch ei gyrraedd trwy daith gylchol Brathiad y Cawr.
Cewch bersbectif gwahanol drwy fwynhau’r dŵr mewn canŵ ar gronfa ddŵr Pontsticill. Mwynhewch am ychydig oriau neu ewch â phecyn gwersylla gyda chi ar gyfer arhosiad dros nos, a gwyliwch y wawr yn torri. Bydd Canolfan Awyr Agored Parkwood Dolygaer yn darparu'r holl offer a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer diwrnod allan gwych.